Lingua   

Yma o hyd

Dafydd Iwan
Lingua: Gallese


Dafydd Iwan


Dwyt ti'm yn cofio Macsen,
does neb yn ei nabod o.
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd,
yn amser rhy hir i'r co'.
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru,
yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
a'n gadael yn genedl gyfan,
a heddiw - wele ni!
 
Ry'n ni yma o hyd,
ry'n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry'n ni yma o hyd,
ry'n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry'n ni yma o hyd.
 
Chwythed y gwynt o'r Dwyrain,
rhued y storm o'r môr,
hollted y mellt yr wybren,
a gwaedded y daran "encôr"!
Llifed dagrau'r gwangalon,
a llyfed y taeog y llawr.
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas,
ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
 
Ry'n ni yma o hyd,
ry'n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry'n ni yma o hyd,
ry'n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry'n ni yma o hyd.
 
Cofiwn i Facsen Wledig
adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd,
"Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn!"
Er gwaetha pob Dic Siôn Dafydd,
er gwaetha 'rhen Fagi a'i chriw,
byddwn yma hyd ddiwedd amser,
a bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!
 
Ry'n ni yma o hyd,
ry'n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry'n ni yma o hyd,
ry'n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry'n ni yma o hyd,
ry'n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry'n ni yma o hyd,
ry'n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth...



Pagina principale CCG

Segnalate eventuali errori nei testi o nei commenti a antiwarsongs@gmail.com




hosted by inventati.org