Lingua   

Tân yn Llŷn

Plethyn
Lingua: Gallese


Plethyn


Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Tân yn ein calon, a thân yn ein gwaith
Tân yn ein crefydd, a thân dros ein hiaith.

Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Tân yn ein calon, a thân yn ein gwaith
Tân yn ein crefydd, a thân dros ein hiaith.
Tân, tân, tân, tân
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?

D. J. Saunders a Valentine
Dyna i chwi dan gynheuwyd gan y rhain!
Tân yn y gogledd yn ymestyn lawr i'r de
Tân oedd yn gyffro drwy bob lle.

Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Tân yn ein calon, a thân yn ein gwaith
Tân yn ein crefydd, a thân dros ein hiaith.
Tân, tân, tân, tân
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?

Gwlad yn wenfflam o'r ffin i'r môr
Gobaith yn ei phrotest, a rhyddid iddi'n stôr
Calonnau'n eirias i unioni'r cam
A'r gwreichion yn Llŷn wedi ennyn y fflam.

Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Tân yn ein calon, a thân yn ein gwaith
Tân yn ein crefydd, a thân dros ein hiaith.
Tân, tân, tân, tân
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?

Ble mae tân a gynheuwyd gynt?
Diffoddwyd gan y glaw, a chwalwyd gan y gwynt,
Ai yn ofer yr aberth, ai ofer y ffydd
Y cawsai'r fflam ei hailgynnau rhyw ddydd?

Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Tân yn ein calon, a thân yn ein gwaith
Tân yn ein crefydd, a thân dros ein hiaith.
Tân, tân, tân, tân
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?



Pagina principale CCG

Segnalate eventuali errori nei testi o nei commenti a antiwarsongs@gmail.com




hosted by inventati.org